MYDDFAI WOMEN’S INSTITUTE
Myddfai Women’s Institute was formed on November 24th 1930. At that time the yearly subscription was 2 shillings. It is now £20. Part of the sub goes to the Federation and part is kept by the Institute. One of our long standing members is Mrs Sally Richards. Last year she celebrated her 90th birthday with a lovely tea party in the Village Hall. She has now retired from the Institute. We meet once a month on the first Thursday in the Village Hall. Each month we have a guest speaker. Our speakers cover a multitude of subjects from foreign travel to making Christmas decorations, parchment craft, cake decorating, wine making etc. This month we had John Williams from the forestry commission telling us all about the recreational facilities in the area. The president, Barbara Thomas and the social secretary, Sonya Henshaw are president and convenor of the Pantycelyn Group of W.I.’s for the next two years. The five institutes in this area in this group are Llandovery, Llandeusant, Gwynfe, Llangadog and ourselves. We have to organize two group meetings a year. We usually arrange two outings a year to various places of interest. Last year it was a trip to Bath and to a private garden in the Builth Wells area. Our calendar of events so far this year will be a visit to Mrs Rogers who makes dolls. In March we have our cawl evening. In April we have Mrs Maureen Davies whose subject will be “Californian dream – musical quiz”. We shall be booking more speakers later in the year. At the end of January members from our W.I. will take part in a Federation quiz. When the weather is better we hope to take part in a “Keep Wales Tidy” walk. Each month our members take part in a competition. Points are awarded and totaled at the end of the year. The winner gets the W.I. trophy cup. We also organize a horticultural show in September. This also includes cookery and children’s art. I could go on and on but can not cover everything. We could do with more members, however, because we are now down to nine. We used to be twenty-four. Two new members joined in 2003. We could do with more. Sonya Henshaw
| Cafodd Sefydliad Merched Myddfai ei ffurfio ar 24ain o Dachwedd 1930. Yr amser hynny dau swllt oedd y tanysgrifiad blynyddol. Mae nawr yn £20. Mae rhan o'r arian yn mynd i'r gynghrair a'r rhan arall yn cael ei gadw yn y sefydliad. Un o'r aelodau hynaf yn y sefydliad yw Mrs. Sally Richards. Y flwyddyn ddiwethaf dathlodd ei phenblwydd yn 90 oed gyda parti te yn Neuadd y Pentref. Mae 'nawr wedi ymddeol o'r sefydliad. Rydym yn cwrdd unwaith y mis ar y dydd lau cyntaf yn Neuadd y Pentref. Bob mis mae gyda ni siaradwr gwadd. Mae'n siaradwyr yn delio a llawer o destunau yn cynnwys teithio tramor, gwneud addurn y Nadolig, crefft memrwn, addurno cacennau, gwneud gwin etc. Y mis yma John Williams o'r Comisiwn Coedwigaeth oedd ganddom yn siarad am y cyfleusterau adloniant sydd yn yr ardal. Mae'n Llywydd Barbara Thomas a'r ysgrifennyddes cymdeithasol Sonya Henshaw yn llywydd a chynnullwraig yn adran Pantycelyn o'r Sefydliad Merched am y ddwy flynedd nesaf. Y pump Sefydliad yn yr ardal hon yw Llanymddyfri, Llanddeusant, Gwynfe, Llangadog a Myddfai. Yr ydym yn dal dau gyfarfod o'r adran bob blwyddyn. Yn arferol yr ydym yn trefnu dau wibdaith y flwyddyn i wahanol fannau o ddiddordeb. Y flwyddyn ddiwethaf cawsom wibdaith i Gaerfaddon ac ymweliad a gardd breifat yn ardal Llanfair-ym-Muallt. Eleni mor belled mae'n calendr yn cynnwys ymweliad a Mrs. Rees sydd yn gwneud doliau. Ym mis Mawrth mae gyda ni noson gawl. Yn Ebrill bydd Mrs. Maureen Davies gyda ni, a'i thestun bydd "Breuddwyd California-cwis cerddorol". Mi fyddwn yn trefnu rhagor o siaradwyr yn hwyrach yn y flwyddyn. Ar ddiwedd Ionawr bydd aelodau o Sefydliad y Merched yn cymeryd rhan mewn cwis y gyngrair. Pan fydd y tywydd yn well yr ydym yn gobeithio cymryd rhan mewn rhodfa "Cadw Cymru'n Daclus". Mae'r aelodau yn cymryd rhan mewn cystydleuaeth pob mis. Maent yn cael pwyntiau am eu ymdrech gyda'r cyfanswm yn cael ei rhoi ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'r ennillydd yn cael Cwpan Sefydliad y Merched. Rydym hefyd yn cynnal sioe garddwriaeth ym Mis Medi sydd hefyd yn cynnwys coginio a chelf plant. Mi allwn fynd ymlaen ac ymlaen ond mae'n amhosib cynnwys popbeth. Pa fodd bynnag mi allwn wneud a rhagor o aelodau achos yr ydym yn awr dim ond naw aelod. Mi roeddem yn bedair ar ugain un tro. Cawsom ddwy aelod newydd yn 2003. Gallwn wneud a fwy. Sonya Henshaw |

